Yn gweithio’n gyd-gynhyrchiol gyda’r Awdurdod Lleol at lunio gwasanaethau a gwella profiadau
Beth rydym wedi bod wrthi’n ei wneud
AROLWG ASESU ANGHENION GOFALWYR
Cynhaliasom arolwg o fis Hydref tan fis Rhagfyr 2019 i gasglu’r wybodaeth sydd gan rieni-ofalwyr am Asesiadau o Anghenion Rhieni-Ofalwyr yn Abertawe a’u profiadau ohonynt. Cewch weld y canlyniadau a darllen copi llawn o’n hadroddiad ni drwy glicio isod:
Mae hawl gan bawb gael asesiad o’u hanghenion fel rhieni-ofalwyr os ymddengys bod arnynt angen gofal neu gymorth a chefnogaeth

TRAWSNEWIDIAD YM MAES ANGHENION YCHWANEGOL
Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag Adrannau Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol, Iechyd a Phenaethiaid Ysgolion at roi’r ddeddfwriaeth newydd ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith (cyhoeddir manylion pellach pan fyddant ar gael).
Rydym am sicrhau bod anghenion rhieni-ofalwyr yn cael eu hystyried ar bob cam o’r broses o’i gweithredu, ac wedyn.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd i gynorthwyo a chefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ALN)