Llais a llwyfan ar lefel strategol, sy’n adlewyrchu ein cymuned amrywiol
Rhoi Gwerth i’ch Llais Chi
BETH RYDYM YN EI WNEUD
Rydym yn eistedd ar weithgorau gyda'r Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd a Phartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.
Rydym yn trefnu hyfforddiant i rieni sy'n ofalwyr.
Rydym yn gwrando ac yn bwydo llais rhiant-ofalwyr i mewn i wneud penderfyniadau. Yna rydyn ni'n rhoi adborth i rieni sy'n ofalwyr.
Mae ein Tîm Arwain yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud.
BETH NAD YDYM YN EI WNEUD
Nid ydym yn darparu gwasanaethau i deuluoedd yn uniongyrchol.
Nid grŵp cymorth mohonom.
Nid ydym yn eirioli achosion unigol. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb mawr mewn straeon unigol oherwydd trwy glywed am eich profiadau rydym yn gallu tynnu sylw at faterion.
FFORDD I GYMRYD RHAN
Nid oes angen i chi gofrestru ar ein rhestr bostio i gymryd rhan, ond trwy ddod yn aelod byddwch yn derbyn ein cylchlythyr rheolaidd ac yn cael gwybod am y gwaith rydym yn ei wneud, yr hyfforddiant a'r gweithdai yr ydym yn eu cynnal.
Gallech gymryd rhan trwy gwblhau un o’n harolygon neu arolygon barn, trwy gael mynediad i un o’r cyrsiau hyfforddi rydym yn eu cynnig, trwy ddod i grŵp ffocws, trwy rannu gyda ni eich profiadau o wasanaethau lleol, trwy weithio gyda ni ar brosiectau penodol.
Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr(aig) i blentyn ag anghenion ychwanegol sy’n byw yn Abertawe, fe gewch chi fod yn aelod o’r fforwm. Cyn gynted ag yr ymunwch chi, fe ddechreuwch chi dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau ac am gyfleoedd i gymryd rhan, megis chwarae eich rhan mewn ymgynghoriadau a phrosiectau ymchwil.
Ni waeth i ba raddau y dewiswch chi gymryd rhan yn y Fforwm, fe fyddwch chi’n helpu i wneud gwahaniaeth yn y gwasanaethau sydd mor bwysig i’n plant ni. Ychwanegwch eich llais chi felly at ein holl leisiau ni. Mwyaf o bobl y byddwn ni’n eu cynrychioli, mwya’n y byd y bydd y penderfynwyr yn ein hardal yn gwrando arnom.