Yn darparu sianel gyfathrebu adeiladol rhwng rhieni-ofalwyr a phartneriaid strategol

Ein blaenoriaethau

Bob blwyddyn bydd y Fforwm yn canolbwyntio ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym sy'n bwysig, ac mae ein ffocws ar hyn o bryd ar y meysydd canlynol:-

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Gweithiwn at sicrhau cynhwysiant a newid diwylliant yn y ddeddfwriaeth ar Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd hyn yn golygu bod mwy o rieni-ofalwyr yn gweithio mewn partneriaeth gyfartal gyda’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithredu at ddiwallu anghenion eu plant a’u pobl ifanc.

GWASANAETH IECHYD MEDDWL PLANT A PHOBL IFANC (CAMHS)

Sicrhau bod CAMHS yn addasu ei ymyriadau er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc anabl. Bydd hyn yn golygu ymyriadau sydd wedi’u haddasu’n briodol, gan hyrwyddo iechyd meddwl da a llesiant i blant a phobl ifanc yn Abertawe.

DARPARU GWASANAETHAU

Datblygu llwybrau clir at wasanaethau. Bydd hyn yn golygu bod llwybr clir ar gyfer plant a phobl ifanc a rhieni gofalwyr i gael mynediad at wasanaethau.

AELODAETH Y FFORWM

Ehangu ein haelodaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae hyn yn golygu y bydd ein llais cyfunol yn cael ei glywed gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau yn Abertawe, gan wireddu newid er gwell lle bo ei angen.

CYD-GYNHYRCHU

Galluogi rhieni-ofalwyr i arwain datblygiad cyfranogiad rhieni-ofalwyr ar sail cyd-gynhyrchiant yn Abertawe. Bydd hyn yn golygu bod model cyflenwi gwasanaethau sy’n gynhwysol ac yn galluogi rhieni i gyfathrebu’n effeithiol â darparwyr gwasanaethau.

Elfen drosfwaol o waith y fforwm yw sicrhau bod ei flaenoriaethau'n cynnwys anabledd cyfan a phob oedran o'r blynyddoedd cynnar i oedolion lle bo hynny'n berthnasol.